Welsh Parliament
 Senedd Cymru
 Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE: Adroddiad cryno’r pedwerydd cyfarfod
 Mawrth 2024
Mae’r Cynulliad Partneriaeth Seneddol yn gorff ffurfiol a sefydlwyd dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE. Mae ganddo rôl bwysig o ran goruchwylio gweithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a phob cytundeb rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.

Cynhaliwyd pedwerydd cyfarfod y Cynulliad Partneriaeth Seneddol yn Llundain ar 4 a 5 Rhagfyr 2023. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o faterion pwysig i Gymru a drafodwyd yn y cyfarfod. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn myfyrio ar ddatblygiad ac esblygiad parhaus y corff a rôl a gwaith y Senedd ynddo.

Cymerodd Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a Samuel Kurtz AS, aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ran yn y trydydd cyfarfod a chytunwyd ar yr adroddiad yn rhinwedd hynny.

Os oes gennych ddiddordeb yng ngwaith y Senedd ar y Cynulliad Partneriaeth Seneddol neu os hoffech ymgysylltu â'r Senedd cyn ei gyfarfodydd yn y dyfodol, anfonwch neges i Nia.Moss@senedd.cymru.

Cynnwys

1.         Materion sy'n bwysig i'r Senedd a Chymru.. 3

‘Ailadeiladu ymddiriedaeth’: cyfnod mwy cadarnhaol yn y berthynas. 3

Symudedd yn creu cyfleoedd gwerthfawr. 4

Cynnydd ar hawliau dinasyddion i’w groesawu ond mae mwy i'w wneud.. 5

Ystafell ar gyfer cydweithrediad adeiladol ar bysgodfeydd.. 5

Methiant i gydweithredu ar fasnachu allyriadau, ynni a hinsawdd yn creu risgiau   6

Mae diogelu data a thwf digidol yn feysydd allweddol o ddiddordeb cyffredin   6

2.        Ymgysylltiad y Senedd â gwaith y Cynulliad Partneriaeth Seneddol 7

Ymgysylltu â rhanddeiliaid.. 8

Ymgysylltu â dirprwyaethau'r DU a'r UE a phwyllgorau eraill y Senedd.. 8

 


 

1.            Materion sy'n bwysig i'r Senedd a Chymru

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE yn cwmpasu meysydd pwysig sydd o fewn cymhwysedd datganoledig neu faterion sy’n cael effaith sylweddol arnynt. Ceir rhagor o wybodaeth am y rhain, sut y mae'r rhain yn effeithio ar Gymru a rôl y Cynulliad Partneriaeth Seneddol yng nghanllawiau a ffeithluniau Ymchwil y Senedd ar y cytundeb.

Yn y cyfarfod, trafodwyd y prif faterion sy’n bwysig i Gymru gan gynnwys symudedd ieuenctid, symudedd ar gyfer y sectorau diwylliant a chwaraeon, pysgodfeydd, hawliau dinasyddion, diogelu data, cydweithredu ynghylch newid hinsawdd, Mecanwaith Addasu Pris Carbon ar draws Ffiniau’r UE a chydweithredu ynghylch ynni. Cafodd meysydd pwysig ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol, megis ar ddatblygu a rheoleiddio deallusrwydd artiffisial eu trafod hefyd gan y cynrychiolwyr.

Am y tro cyntaf, gwahoddwyd Aelodau o'r Senedd i gyfrannu i eitem lawn a siaradodd Huw Irranca-Davies AS am bwysigrwydd symudedd ieuenctid a chynllun Taith Llywodraeth Cymru.

Gwahoddwyd sefydliadau yng Nghymru i gyflwyno eu barn i ni cyn y cyfarfod. Rydym yn ddiolchgar i bawb a lwyddodd i wneud hynny o fewn yr amserlenni byr a roddwyd i ni. Adlewyrchwyd y safbwyntiau hyn mewn papur briffio a ddarparwyd i gynrychiolwyr y DU ac yn y cyfraniadau gan Aelodau o'r Senedd yn ystod y cyfarfod.

Gallwch wylio’r trafodion yn llawn ar sianel YouTube Senedd y Deyrnas Unedig.

‘Ailadeiladu ymddiriedaeth’: cyfnod mwy cadarnhaol yn y berthynas

Pwysleisiodd Leo Docherty AS, Gweinidog Ewrop Llywodraeth y DU, a Pedro Serrano, Llysgennad yr UE i'r DU, y naws gadarnhaol a chynhyrchiol mewn cysylltiadau rhwng y DU a'r UE dros y 12 mis diwethaf. Dywedodd y Llysgennad Serrano fod ailadeiladu ymddiriedaeth yn arwydd o’r flwyddyn hon ac mai mwy o gydweithredu fydd y canlyniad.

Canmolodd y Gweinidog Docherty y trafodaethau a’r gwaith drwy fforymau’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar yr economi ddigidol, cydweithredu ar nwyddau fferyllol, organig a mynediad i gyfreithwyr y DU i farchnad yr UE a dywedodd fod y DU yn agored i drafodaethau ar wella symudedd ieuenctid, cydweithredu ar ddiwylliant a datblygu a rheoleiddio deallusrwydd artiffisial.

Nododd y Llysgennad Serrano fod gweithredu'r Cytundeb Ymadael yn llawn, gan gynnwys gweithrediad llawn Fframwaith Windsor a rhwymedigaethau hawliau dinasyddion, yn hanfodol i ragor o gydweithredu dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Dywedodd y Llysgennad Serrano fod darpariaethau tegwch yn y farchnad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn parhau i fod yn faterion pwysig i'r UE ac y bydd yn parhau i ddilyn yn agos y diwygiadau gan y DU i gyfraith yr UE a ddargedwir a chydymffurfedd y DU â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol sy'n rhagofyniad ar gyfer cydweithredu gorfodi'r gyfraith yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Galwodd am drafodaethau cynnar ac ymarferol ar bysgodfeydd ar ôl 2026 a dywedodd fod rhaid i'r gwaith ar gyfer gweithredu'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn llawn ac yn uchelgeisiol barhau.

Cafodd tryloywder strwythurau llywodraethu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu a phenderfyniadau a wnaed ynddynt ei godi gan aelodau'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol. Mae hyn yn fater sy'n cael sylw gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd yn ei adroddiad ar lywodraethiant y DU a’r UE.

Symudedd yn creu cyfleoedd gwerthfawr

Yn ei drydydd argymhelliad i'r Cyngor Partneriaeth, cydnabu'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol y cyfleoedd gwerthfawr y mae symudedd dinasyddion, yn enwedig symudedd ieuenctid a diwylliannol, yn eu creu. I gydnabod y cymorth eang ar y ddwy ochr i wella gallu pobl ifanc ac artistiaid i deithio, symud a gweithio ar draws ffiniau, galwodd y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ar y Cyngor Partneriaeth ac aelod-wladwriaethau’r UE i gydweithio er mwyn gwella’r cyfleoedd sydd ar gael. Mae'n galw ar y DU a'r UE i ganiatáu’r defnydd o gardiau adnabod ar gyfer teithiau ysgol wedi'u trefnu ac i hepgor gofynion fisa. Mynegodd bryder bod y DU wedi cytuno i wneud hyn ar gyfer rhai aelod-wladwriaethau'r UE ond nid pob un a dywedodd fod dull anwahaniaethol yn hanfodol.

Dewisodd y DU beidio â bod yn rhan o Erasmus+, rhaglen symudedd ieuenctid ac addysg y DU, ar ôl Brexit. Atgoffodd Huw Irranca-Davies AS y Cyfarfod Llawn o gymorth Llywodraeth Cymru i'r DU ailymuno â rhaglen Erasmus+ a thynnu sylw'r cynrychiolwyr at raglen Taith Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi cyfranogwyr i ddod i Gymru yn ogystal â chefnogi sefydliadau a chyfranogwyr Cymru i fynd dramor.

Mae'r argymhelliad yn gwneud ceisiadau penodol ar gyfer artistiaid teithiol, mater a drafodwyd sawl gwaith yn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol. Mae'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol yn annog y DU a'r UE i flaenoriaethu symudedd artistiaid teithiol yn yr adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a ddisgwylir cyn 2026. Mae’n galw ar y ddwy ochr i ddyblu ymdrechion i symleiddio trefniadau fisa a thollau ar gyfer artistiaid teithiol a'u timau ac estyn hyd y fisâu sydd ar gael ar gyfer teithio.

Tynnodd Aelodau o'r Senedd sylw hefyd at y materion y mae sefydliadau chwaraeon proffesiynol a gwirfoddol ac athletwyr yn eu hwynebu ar ôl Brexit a galw hefyd i’r materion y mae’r sector hwn yn eu hwynebu gael eu cydnabod.

Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn cynnal ymchwiliad i ddiwylliant a'r berthynas newydd â'r UE.Dechreuodd y Farwnes Deborah Bull, aelod o ddirprwyaeth y DU yn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol, yr ymchwiliad drwy ymddangos gerbron y Pwyllgor i roi tystiolaeth ar 8 Chwefror 2024.

Galwodd y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ar y Cyngor Partneriaeth i ymateb i'w argymhelliad cyn cyfarfod nesaf y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ym mis Mawrth 2024.

Cynnydd ar hawliau dinasyddion i’w groesawu ond mae mwy i'w wneud

Croesawyd y cynnydd a wnaed wrth amddiffyn hawliau dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU a dinasyddion y DU sy'n byw yn yr UE. Fodd bynnag, galwodd y grŵp trafod ar hawliau dinasyddion ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu agwedd syml a thosturiol ar weithredu dyfarniad yr Uchel Lys ar statws dinasyddion yr UE.

Galwodd am hyfforddiant i'r heddlu a lluoedd ffiniau ar y ddwy ochr ar hawliau dinasyddion sy'n teithio neu'n preswylio am gyfnodau byr a galwodd ar y Comisiwn Ewropeaidd i gael rôl ar ddarparu gwybodaeth hygyrch i ddinasyddion y DU. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cymorth i sefydliadau sy'n gweithio gyda dinasyddion, yn enwedig pobl sy’n agored i niwed, i gynnal eu hawl. Galwodd y grŵp ar y DU a'r UE i ddarparu cymorth digonol.

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn monitro hawliau dinasyddion Ewropeaidd yng Nghymru. 

Ystafell ar gyfer cydweithrediad adeiladol ar bysgodfeydd

Er ei fod yn cydnabod bod pysgodfeydd yn parhau i fod yn faes her a dadl rhwng y DU a'r UE, canfu’r grŵp trafod fod meysydd lle y gallai cydweithrediad adeiladol fod o fudd i'r diwydiant ar y ddwy ochr. Mae mynd i'r afael â materion y mae cymunedau pysgota Iwerddon a Gogledd Iwerddon yn eu hwynebu yn un maes lle y gallai cytuno ar ateb cyffredin helpu i feithrin ymddiriedaeth ar gyfer negodiadau pysgota ehangach.

Galwodd y grŵp am ddull cydweithredol o reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy sy'n ymgysylltu â chymunedau lleol. Cytunwyd y dylai fod dull amlflwydd y tu hwnt i 2026 i greu sicrwydd i gymunedau ar y ddwy ochr gyda mecanweithiau ar gyfer newidiadau stoc sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Methiant i gydweithredu ar fasnachu allyriadau, ynni a hinsawdd yn creu risgiau

Roedd yr angen am gydweithrediad agos ar ymrwymiadau hinsawdd rhyngwladol a chydweithrediad ynni yn alwadau cyffredin gan aelodau'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol. Wrth siarad yn y Cyfarfod Llawn, dywedodd swyddogion Llywodraeth y DU eu bod yn siomedig gyda'r cynnydd a wnaed i weithredu teitl ynni'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac, yn benodol, gwnaethant alw am fwy o gynnydd ar ddatblygu trefniadau masnachu trydan effeithlon.

Croesawyd cynnydd ar gydweithrediad ynni ym Môr y Gogledd ond galwodd aelodau'r DU a'r UE i hyn gael ei estyn i ddyfnhau cydweithrediad yn y Môr Celtaidd a'r Iwerydd. Cododd Aelodau o'r Senedd gydweithrediad y Môr Celtaidd yng nghyfarfod diwethaf y Cynulliad Partneriaeth Seneddol.

Codwyd pryder gan aelodau ar y ddwy ochr am risgiau dulliau gwahanol posibl o fasnachu allyriadau a dadleoli carbon yn y DU a'r UE. Trafodwyd goblygiadau posibl cyflwyno Mecanwaith Addasu Pris Carbon ar draws Ffiniau’r UE heb gydweithrediad a chynllun cyfatebol yn y DU. Mynegodd y Farwnes Hayter bryderon am oblygiadau’r Mecanwaith Addasu Pris Carbon ar draws Ffiniau i ddiwydiant dur Cymru ar ran Aelodau o'r Senedd yn ystod y ddadl. Galwodd Seán Kelly ASE, Is-lywydd dirprwyaeth Senedd Ewrop, i'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol weithredu fel fforwm i ddileu gwrthdaro ar brisiau allyriadau ac addasu pris carbon.

Dywedodd swyddogion Llywodraeth y DU fod y Llywodraeth yn agored i ragor o gydweithredu ar fasnachu allyriadau.

Mae darpariaethau amgylchedd, hinsawdd ac ynni'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu wedi’u hesbonio mewn canllaw gan Ymchwil y Senedd.

Mae diogelu data a thwf digidol yn feysydd allweddol o ddiddordeb cyffredin

Nododd y grŵp trafod fod economïau digidol y DU a'r UE yn llusgo ar ôl yr Unol Daleithiau a rhanbarthau eraill a dywedodd y dylai'r ddwy ochr gydweithredu i sicrhau y caiff dinasyddion eu hamddiffyn wrth alluogi arloesi a thwf. Galwodd am gydweithrediad ac ymgysylltiad deddfwriaethol parhaus rhwng y DU a'r UE i sicrhau y cynhelir safonau a bod y ddwy ochr yn sicrhau na fydd cytundebau digonolrwydd data’n mynd yn angof neu’n cael eu peryglu.

Nodwyd bod pwysigrwydd hanfodol gweithredu i ddiogelu ein democratiaethau rhag camwybodaeth ac ymyriad yn faes hanfodol ar gyfer cydweithrediad agos.

2.         Ymgysylltiad y Senedd â gwaith y Cynulliad Partneriaeth Seneddol

Mae gan ddeddfwrfeydd datganoledig lawer i'w gyfrannu i waith y Cynulliad Partneriaeth Seneddol, fel y dengys yr adroddiad hwn. Cefnogir cyfraniad cadarnhaol aelodau datganoledig gan lefel y diddordeb ac ymgysylltiad gan randdeiliaid o Gymru.

Ystyriodd yr adroddiad cryno ar y trydydd cyfarfod y cynnydd a wnaed yn erbyn pum argymhelliad. Parhaodd y cynnydd a wnaed yn y trydydd cyfarfod sy'n dangos bod ymgysylltiad y Senedd a'r deddfwrfeydd datganoledig yng ngwaith y corff yn ymwreiddio. Yr hyn a gafodd groeso arbennig yn ystod y trydydd cyfarfod oedd gwahoddiad i aelodau'r ddeddfwrfa ddatganoledig gyfrannu i’r drafodaeth ar eitem yn y cyfarfod llawn.

I Gymru, roedd hyn yn ein galluogi i godi'r gwaith pwysig ar symudedd sy'n cael ei wneud yng Nghymru a'r heriau parhaus y mae ein busnesau, ein diwylliant a'n sefydliadau chwaraeon yn eu hwynebu. Roedd grwpiau trafod hefyd yn ein galluogi i godi materion yn ymwneud â hawliau dinasyddion a gwaith pwysig Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar fonitro gweithrediad y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru. Rydym hefyd yn codi materion sy'n peri pryder ar gyfer pysgodfeydd a moroedd Cymru.

Serch hynny, mae ein hargymhellion ar wreiddio rôl deddfwrfeydd datganoledig yn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol a'r angen am barhau i ystyried caniatáu i'r deddfwrfeydd datganoledig gymryd rhan yn yr holl drafodaethau yn y cyfarfod llawn mewn meysydd datganoledig yn parhau i fod yn ddilys.

Er ein bod yn gwerthfawrogi'r cyfle i gyfrannu i’r eitem ar symudedd, roedd llawer o eitemau eraill lle y gallem fod wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol. Er enghraifft, materion yn ymwneud ag effaith Mecanwaith Addasu Pris Carbon ar draws Ffiniau’r UE ar ddiwydiant dur Cymru. Rydym yn nodi ac yn croesawu cymorth dirprwyaeth Aelodau o Senedd Ewrop i roi hawliau siarad llawn i ddeddfwrfeydd datganoledig yn ystod y cyfarfod llawn.

Rydym yn deall yr amser cyfyngedig a oedd ar gael i holl aelodau'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol i gyfrannu yn ystod dadleuon y cyfarfod llawn ond rydym yn parhau i bwyso i amser gael ei ganfod ar gyfer deddfwrfeydd datganoledig. Mae gan y Cynulliad Partneriaeth Seneddol rôl hynod bwysig wrth gryfhau'r berthynas rhwng y DU a'r UE, a gall y deddfwrfeydd datganoledig wneud cyfraniad cadarnhaol at y broses o ddatblygu syniadau a rhannu arfer da.

Mae adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd ar lywodraethiant y DU a’r UE yn cydnabod yr esblygiad pwysig yn nhrefniadau gweithio'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol a'i bwysigrwydd fel man lle y gellir canfod atebion gwleidyddol.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Rydym yn ddiolchgar am barodrwydd rhanddeiliaid yng Nghymru i gyflwyno tystiolaeth, materion a safbwyntiau i ni cyn cyfarfod diwethaf y Cynulliad Partneriaeth Seneddol. Mae'n amhrisiadwy wrth sicrhau y caiff materion sy’n bwysig i Gymru eu cyfrannu'n briodol. Un her allweddol wrth geisio ymgysylltu'n ffurfiol â rhanddeiliaid cyn cyfarfodydd yw bod agendâu’n cael eu rhannu’n hwyr iawn. Byddwn yn parhau i weithio i wella sut a phryd rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid cyn cyfarfodydd y Cynulliad Partneriaeth Seneddol.

Mae Comisiwn y Senedd wedi derbyn yr argymhelliad a wnaed gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd, y dylai'r Senedd weithio gyda chadeiryddion pwyllgorau perthnasol y Senedd ac Aelodau o'r Senedd ar ddirprwyaethau’r DU a'r UE i hwyluso ymgysylltiad rhanddeiliaid ar faterion y DU a'r UE. Rydym yn edrych ymlaen at gyfrannu i’r gwaith i fwrw ymlaen â hyn.

Ymgysylltu â dirprwyaethau'r DU a'r UE a phwyllgorau eraill y Senedd

Gwnaethom dynnu ein hadroddiad diwethaf at sylw pwyllgorau perthnasol y Senedd a’r Prif Weinidog. Rydym yn ddiolchgar am eu hymateb cadarnhaol a byddwn yn parhau i ymgysylltu â hwy. Rydym yn croesawu'n gynnes ymgysylltiad Pwyllgor Diwylliant y Senedd â’r Farwnes Bull fel rhan o’i ymchwiliad i ddiwylliant a'r berthynas newydd â'r UE yn seiliedig ar waith pwysig ar y mater hwn drwy'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol.

Mae pwyllgorau'r Senedd wedi parhau i ymgysylltu â phwyllgorau cyfatebol y DU a'r UE ar faterion y DU a'r UE. Ymgysylltodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig [FE(CyS|SC1] ag aelodau dirprwyaeth Senedd Ewrop pan wnaethant ymweld â Brwsel ym mis Medi a mis Tachwedd 2023.


 [FE(CyS|SC1]Does this need a document linking?